Ymatebion i'r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Gyllideb Ddrafft

 

Argymhelliad 1. Wrth gyflwyno cyllidebau drafft yn y dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru nodi pwy yr ymgynghorwyd â hwy a phwy yr ymgysylltwyd â hwy wrth ddatblygu’r cynigion, sut y gwnaed hyn, a pha newidiadau sydd wedi’u gwneud o ganlyniad.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Mae llawer o fforymau sefydledig ar gyfer trafod ac ymgysylltu â chydweithwyr yn y GIG, sydd i gyd yn helpu i lywio ein gwaith o ddatblygu polisi, ein proses flaenoriaethu a dyraniadau'r gyllideb yn y pen draw. Mae'r rhain yn cynnwys Bwrdd Arweinyddiaeth y GIG, sy'n cynnwys holl Brif Weithredwyr GIG Cymru a hefyd cynrychiolaeth o gyfarfodydd Cydffederasiwn GIG Cymru. Rwyf hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd â Chadeiryddion y GIG.

Ø  O ran iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, mae’r Gweinidogion yn ymgysylltu'n rheolaidd ag ystod eang o randdeiliaid, yn unigol a thrwy grwpiau cynrychioliadol megis:

Ø  Rhwydweithiau Aelodau Cabinet Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,

Ø  Y Pwyllgor Gweithredu ar Ofal,

Ø  Y Grŵp Cynllunio ac Ymateb traws-sectorol ar Covid yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ø  Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru.

 

Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid wrth ddatblygu'r gyllideb. Nododd rhanddeiliaid nifer o feysydd blaenoriaeth megis cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed, gan gynnwys plant, pobl iau a phobl hŷn; a datblygu gwaith yn ymwneud â datgarboneiddio a bioamrywiaeth.  Mae'r meysydd hyn wedi'u hadlewyrchu yn ein cynlluniau gwariant ar gyfer 2022-23.

Mae Cynllun Gwella'r Gyllideb yn amlinellu camau gweithredu i wella prosesau cyllideb a threth gan gynnwys camau i barhau i fireinio a gwella tryloywder gwybodaeth am y gyllideb. Fel rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn ystyried sut y gallwn wella tryloywder a chyhoeddi lefel briodol o fanylion wrth lunio cynlluniau ar gyfer y gyllideb.

 

Argymhelliad 2. Wrth gyflwyno cyllidebau drafft yn y dyfodol, ac wrth ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig i lywio gwaith craffu pwyllgorau’r Senedd ar y cynigion cyllidebol, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu rhagor o eglurder ynghylch sut y mae pob dyraniad o fewn y gyllideb yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, pa ganlyniadau mesuradwy y bwriedir i’r dyraniad eu cyflawni, a sut y bydd y cynnydd a wneir yn erbyn canlyniadau o'r fath yn cael ei fonitro a'i adrodd mewn modd tryloyw.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Mae naratif y gyllideb ddrafft yn darparu'r cyd-destun cyffredinol ar gyfer y gyllideb ac yn amlinellu sut mae'r dyraniadau'n cyd-fynd â blaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Yn y dystiolaeth fanwl i'r Pwyllgor, rydym wedi ceisio dangos sut mae'r dyraniadau yn ein portffolio yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau cyffredinol hyn, yn enwedig pan fyddant yn cefnogi ymrwymiadau penodol y Rhaglen Lywodraethu.

 

Mae’n anochel y bydd angen cyfran sylweddol o ddyraniadau newydd i'r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi twf o ran cost a galw ar gyfer GIG Cymru, gan gynnwys dyfarniadau cyflog ar gyfer ein staff GIG gwerthfawr iawn. O ganlyniad, nid yw'n hawdd cysoni'r dyraniadau ychwanegol hyn â mesurau canlyniadau penodol bob amser. Mae swyddogion yn dwyn sefydliadau GIG Cymru i gyfrif ar draws ystod eang o fesurau cyflawni a chanlyniadau trwy gynnal cyfarfodydd adolygu misol rheolaidd a chyfarfodydd Tîm y Cyd-bwyllgor Gweithredol bob chwe mis. Fodd bynnag, lle mae dyraniadau'n cael eu defnyddio i gyflawni canlyniadau penodol, byddwn yn sicrhau bod y dull o fonitro'r canlyniadau hynny wedi'i nodi'n glir mewn tystiolaeth yn y dyfodol. 

 

 

Argymhelliad 3. Dylai Llywodraeth Cymru gadarnhau a yw wedi cael unrhyw drafodaethau gyda chyrff iechyd neu awdurdodau lleol ynghylch symud cyllid o adnoddau i gyfalaf er mwyn ariannu prosiectau cyfalaf iechyd a gofal cymdeithasol trawsnewidiol. Wrth wneud hyn, dylai Llywodraeth Cymru nodi a yw’n fodlon ystyried ceisiadau gan fyrddau iechyd i gyllid gael ei symud yn y modd hwn.  

 

Ymateb: Derbyn

                     

Nid oes unrhyw drafodaethau wedi'u cynnal â sefydliadau'r GIG yn ymwneud â symud cyllid o gronfeydd refeniw i gronfeydd cyfalaf er mwyn datblygu prosiectau cyfalaf iechyd a gofal cymdeithasol cyfunol. Mae darparu £50 miliwn yn 2022-23 ar gyfer y sector Gofal Cymdeithasol yn ddatblygiad cadarnhaol yn y maes hwn, a bydd yn golygu bod Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gwneud cyfraniad pwysig at nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi.

 

 

 

Argymhelliad 4. Dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad ynghylch e-ragnodi. Dylai'r diweddariad gynnwys: manylion yr hyn sydd angen ei wneud yn ystod pob cam o’r prosiect, pa mor hir y rhagwelir y bydd pob cam yn ei gymryd, sut mae hyd disgwyliedig pob cam wedi’i asesu a sut mae terfynau amser wedi’u pennu, a pha gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod e-ragnodi yn cael ei gyflwyno'n ddi-oed.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i gyflawni Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol (a elwid gynt yn e-ragnodi) cyn gynted â phosibl, o fewn y 3-5 mlynedd a nodwyd yn flaenorol. Cyn bo hir, byddaf yn rhyddhau datganiad ysgrifenedig yn amlinellu diweddariad manylach, gan gynnwys amserlenni, yn ymwneud â Thrawsnewid Meddyginiaethau Digidol. Mae pedair ffrwd waith y portffolio yn mynd rhagddynt yn gyfochrog, ond nid oes unrhyw "gamau" yn yr ystyr draddodiadol gan fod defnyddio methodolegau o'r fath yn arafu'r broses o ddarparu atebion.

Er mwyn darparu diweddariad byr cyn y datganiad ysgrifenedig llawn, mae dogfennau tendro ar gyfer y fframwaith caffael ar gyfer ateb rheoli meddyginiaethau digidol gofal eilaidd yn fyw i gyflenwyr ymateb iddynt erbyn hyn, ac rydym yn disgwyl y bydd y fframwaith cyflenwyr ar gael i fyrddau iechyd ddechrau ymateb yn ôl y gofyn erbyn diwedd mis Mehefin. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i ddechrau gwaith cyn gweithredu, gan gynnwys darganfod defnyddwyr; bydd hyn yn cyflymu'r broses o fabwysiadu platfformau gofal eilaidd trwy ganiatáu i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ddod ag adnoddau pwrpasol i mewn i weithio ar gyflwyno Meddyginiaethau Digidol yn unig.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno system Trosglwyddo Presgripsiynau Electronig gan ddefnyddio platfform technoleg presennol GIG Lloegr, er bod angen mynd ati i wahanu systemau ariannol Cymru a Lloegr (ar gyfer talu taliadau presgripsiwn gan y GIG) a ffactorau eraill. Nid yw ychwaith yn hwyluso gweithgareddau rhagnodi presgripsiynwyr gofal sylfaenol nad ydynt yn feddygon teulu, felly mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn parhau i archwilio sut i fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae swyddogaethau'r ap cleifion wedi cyrraedd y cam darganfod defnyddwyr, wrth i’r rhaglen archwilio pa swyddogaethau y mae defnyddwyr (clinigwyr a chleifion) eisiau eu cynnwys yn yr ap; mae hyn yn cynnwys argymhellion a chanfyddiadau o'r darganfyddiad gofal sylfaenol sy'n cael ei gwblhau ar hyn o bryd gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol trwy'r rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer y Cyhoedd a Chleifion sy'n darparu Ap GIG Cymru. Mae'r gwaith ystorfa meddyginiaethau wedi dechrau trwy ystyried y sylfeini pensaernïol; bydd y gwaith hwn yn cael ei lywio ymhellach gan y safonau data agored y mae cyflenwyr y fframwaith gofal eilaidd yn dymuno eu defnyddio, gan gadarnhau (neu fel arall) pa blatfform technoleg EPT o Loegr sydd wedi'i ddewis ar gyfer y ffrwd waith gofal sylfaenol.

 

 

Argymhelliad 5. Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu rhagor o wybodaeth am sut y blaenoriaethir unrhyw gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a ddaw ar gael yn ystod y flwyddyn, er enghraifft drwy symiau canlyniadol Fformiwla Barnett. Dylai hyn gynnwys manylion ynghylch pa waith paratoi sy'n cael ei wneud i sicrhau bod cyfres o brosiectau y gellid eu datblygu heb oedi.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae sefydliadau'r GIG wedi sicrhau ers tro bod cynlluniau cyfalaf ar gael ar fyr rybudd os oes arian ychwanegol ar gael.

 

Gall cynlluniau cyfalaf yn ôl eu natur gymryd cryn amser i'w datblygu'n drylwyr. O ganlyniad, mae yna lif parhaus o gynlluniau y mae sefydliadau'r GIG yn gweithio arnynt. Mae heriau anochel yn deillio o hyn oherwydd natur gymhleth y gwaith y ceisir cyllid cyfalaf ar ei gyfer. Rhoddir blaenoriaeth i waith sy'n gysylltiedig â sicrhau bod safleoedd y GIG yn ddiogel (gan gynnwys buddsoddi mewn gwaith atal tân a seilwaith trydanol). Yn ogystal, mae yna gynlluniau sy'n gysylltiedig ag adfer yn dilyn Covid (fel cynlluniau’n ymwneud â darpariaeth endosgopi) yn ogystal â thrawsnewid gwasanaethau’n ehangach.

 

Oherwydd heriau amlenni ariannu blynyddol (h.y. yr angen i ddefnyddio cyllid yn y flwyddyn pan fydd ar gael), mae sefydliadau’n datblygu cynlluniau manwl wrth gefn rhag ofn bod unrhyw gyllid ar gael. Mae'r dull hwn wedi bod yn effeithiol wrth gefnogi rhaglenni newid cyfarpar sefydliadau sydd ag amseroedd arwain cyflenwi byrrach.

 

 

Argymhelliad 6. Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu rhagor o wybodaeth am effaith gostyngiadau mewn cyllid cyfalaf ar ddatgarboneiddio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, ac unrhyw oblygiadau ar gyfer ymateb y sectorau i argyfwng yr hinsawdd.

 

Ymateb: Derbyn

 

Bydd y dyraniad cyfalaf is yn cyfyngu ar y cyfleoedd sydd ar gael i'r GIG ym maes datgarboneiddio ond, lle bo modd, bydd cyfleoedd yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau er mwyn i ni barhau i wneud cynnydd yn erbyn y targed sero net. Mae holl achosion busnes cyfalaf y GIG yn cyfeirio at y cyfleoedd datgarboneiddio sydd ar gael.

Mae Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru yn nodi targed i ddangos ein bod ar y trywydd iawn trwy leihau allyriadau 16% erbyn 2025. Bydd y targed hwn yn un heriol a bydd angen i sefydliadau ystyried amrywiaeth o fentrau a ffynonellau ariannu i gyflawni yn erbyn y targed.

Mae nifer o gynlluniau yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2022-23 o hyd a fydd yn helpu i wneud cynnydd tuag at y targedau datgarboneiddio. Maent yn cynnwys y fferm solar sy'n cael ei datblygu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (ochr yn ochr â'r fferm solar sydd eisoes wedi'i chefnogi yn Ysbyty Treforys).

Yn ogystal, bydd darparu cyfalaf ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yn 2022-23 yn cynnig cyfleoedd newydd i sefydliadau leihau ôl troed carbon y sector.

 

Argymhelliad 7. Dylai Llywodraeth Cymru roi rhagor o sicrwydd ynghylch sut y bydd yn sicrhau bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn llwyddo i gyflawni cynaliadwyedd a chydbwysedd ariannol o fewn cylch cynllunio tymor canolig integredig 2022-23 i 2024-25.

 

Ymateb: Derbyn

Rydym wedi cynyddu cyllid craidd sefydliadau'r GIG yn sylweddol yn 2022-23, ac mae'r swm yn cyfateb i 2.8% o gyllidebau ysbytai a chymunedol craidd. Mae hyn yn ychwanegol at y cyllid gwerth £170 miliwn rydym wedi'i gadarnhau at ddibenion adfer, y cyllid gwerth £20 miliwn ar gyfer gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth, a'r cyllid ar gyfer dyfarniadau cyflog 2022-23 a gyhoeddir unwaith y bydd y dyfarniadau wedi'u cadarnhau.

Sefydlodd Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 ddyletswydd statudol i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd ddarparu Cynllun Tymor Canolig Integredig. Rhaid i gynlluniau fantoli dros gyfnod treigl o dair blynedd er mwyn iddynt gael eu hargymell i'w cymeradwyo gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gohiriwyd y broses statudol ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig. Cyhoeddwyd Fframwaith Cynllunio GIG Cymru ym mis Hydref 2021, gan ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau'r GIG gyflwyno Cynlluniau Tymor Canolig Integredig ar 31 Mawrth. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau'r GIG amlinellu eu cynlluniau ariannol ar gyfer y cyfnod rhwng 2022 a 2025 ac ailosod y cylch cynllunio. Bydd swyddogion a'r Uned Cyflawni Ariannol yn craffu'n fanwl ar y cynlluniau cyn gwneud argymhellion i'w cymeradwyo gan y Gweinidog. Mae'r Uned Cyflawni Ariannol yn gweithio'n agos gyda sefydliadau i brofi rhagdybiaethau ariannol a deall meysydd y mae angen eu cryfhau. Bydd sefydlu swyddogaethau Gweithrediaeth y GIG yn galluogi ac yn gwella'r gwaith o graffu ar gynllunio ariannol a'i wella.

 

 

Argymhelliad 8. Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y bydd yn gweithio gyda byrddau iechyd i leihau eu costau gweithredu sefydlog, gan gynnwys unrhyw gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i osod targedau neu ddisgwyliadau ar gyfer lleihau costau sefydlog.

 

Ymateb: Derbyn

 

Disgwylir i holl sefydliadau'r GIG sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn 2022-23 yn unol â'r lefel y maent yn ei chyflawni yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae sefydliadau’n gallu manteisio ar adnodd data meincnodi a data costau pwysig a reolir gan yr Uned Cyflawni Ariannol i'w galluogi i gymharu effeithlonrwydd eu gwasanaethau â sefydliadau cyfoedion.

Trwy Gynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru, mae rhai camau ar lefel Cymru gyfan yn cael eu cymryd i leihau'r defnydd o garbon a helpu i leihau costau sefydlog. Er enghraifft, mae cynnydd da wedi'i wneud hyd yma ledled Ystad y GIG i osod goleuadau LED. Mae'r Cynllun Cyflawni Strategol yn cynnwys targed i ddisodli'r holl oleuadau presennol yn llawn â goleuadau LED erbyn 2025. Wrth symud ymlaen, mae'r cynnydd ar oleuadau LED a'r broses o adrodd ar fentrau eraill yn cael eu hystyried fel eitemau i'w cynnwys yn y broses casglu data flynyddol ar gyfer y System Rheoli Ystadau a Chyfleusterau a weithredir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG – Gwasanaethau Ystadau Arbenigol. Hefyd, bydd angen i strategaethau datgarboneiddio dargedu gwelliannau i systemau rheoli adeiladau. Mae'r Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio yn nodi y bydd gan bob adeilad systemau rheoli adeiladu cyfoes, safonol ac effeithiol, er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o ynni ar safleoedd. 

 

 

 

Argymhelliad 9. Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu eglurder ynghylch sut y bydd effaith gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth, a’r ffocws ar drawsnewid ac ailgynllunio gwasanaethau yn y cynllun adfer, yn cael eu hasesu i sicrhau eu bod yn ysgogi ffyrdd newydd o weithio a modelau newydd o ddarparu gwasanaethau, a’u bod yn cyflawni gwell canlyniadau a phrofiadau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal iechyd.

 

Ymateb: Derbyn

Rydym wedi dyrannu gwerth £20 miliwn o gyllid rheolaidd i helpu i ddarparu gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth, ac mae £15 miliwn ohono wedi'i ddyrannu i fyrddau iechyd lleol. Bydd y £5 miliwn sy'n weddill yn cael ei ddefnyddio yn ystod 2022-23 i helpu i ddatblygu camau gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth gan Ymddiriedolaethau'r GIG ac Awdurdodau Iechyd Arbennig, i gymryd camau pellach mewn Byrddau Iechyd sy'n dibynnu ar aeddfedrwydd cynlluniau gofal iechyd seiliedig ar werth, ac ar gyfer gofynion cyffredinol y system i gefnogi gwerth ledled GIG Cymru.

Rydym yn disgwyl y bydd sefydliadau yn defnyddio'r cyllid hwn i gefnogi'r canlynol:

·         Gwneud cynnydd wrth gyflwyno ymyriadau gwerth uchel seiliedig ar dystiolaeth sy'n gyson ag anghenion a blaenoriaethau'r boblogaeth leol

·         Gwneud cynnydd sylweddol wrth fesur data costau a chanlyniadau er mwyn llywio penderfyniadau gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yn y dyfodol ar gyfer meysydd cyflyrau â blaenoriaeth

·         Sicrhau rhaglen gyflenwi sy'n casglu Mesurau Canlyniadau a Adroddwyd gan Gleifion (PROM) a mandad i rannu data PROM yn genedlaethol er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar werth a gofal clinigol uniongyrchol

·         Nodi cyfleoedd i leihau amrywiadau diangen a gweithgarwch o werth cyfyngedig, a rhoi blaenoriaeth i safoni llwybrau ymarfer gorau sy'n helpu i sicrhau canlyniadau gwell

·         Sicrhau bod newidiadau sy'n cael eu rhoi ar waith yn cael eu monitro i nodi gwelliant posibl mewn canlyniadau a newid yn y defnydd o adnoddau er mwyn sicrhau gwerth.

 

Disgwylir i sefydliadau ddefnyddio'r cyllid hwn naill ai i gyflwyno ymyriadau gwerth uchel yn uniongyrchol mewn meysydd clinigol â blaenoriaeth, neu i ddatblygu seilwaith sefydliadol er mwyn cefnogi gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yn unol â'r gofynion uchod.

Wrth ddatblygu cynlluniau, disgwylir i sefydliadau fanteisio'n llawn ar gymorth y seilwaith cenedlaethol, sy'n cynnwys y Ganolfan Gwerth mewn Iechyd, a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yr Uned Cyflawni Ariannol, yn ogystal â'r sylfaen dystiolaeth sy'n ehangu a chynhyrchion a fydd yn helpu i ddarparu gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth.

Bydd mecanweithiau'n cael eu rhoi ar waith gan y Ganolfan Gwerth mewn Iechyd, yr Uned Cyflawni Ariannol, a thrwy drefniadau rheoli perfformiad sefydliadol rheolaidd i fonitro sut mae sefydliadau’n defnyddio dulliau gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth er mwyn mesur eu heffaith a chefnogi lledaeniad pellach a graddfa fwy ledled GIG Cymru.

 

Argymhelliad 10. Dylai Llywodraeth Cymru:

·         Gadarnhau fel mater o frys a fydd cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol COVID-19 yn cael ei ymestyn y tu hwnt i fis Mawrth 2022, ac a oes cyllid ar gael yng nghyllideb ddrafft 2022-23 at y diben hwn.

·         Ystyried cydgrynhoi egwyddorion y cynllun o fewn telerau ac amodau’r gweithlu gofal cymdeithasol, hynny yw parhau’r cymhwystra am ychwanegiad at dâl salwch ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n hunanynysu neu’n cymryd absenoldeb salwch o ganlyniad i COVID-19, ac na fyddai fel arall ond yn derbyn Tâl Salwch Statudol neu ddim incwm o gwbl.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Rydym wedi cymeradwyo parhad y Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol tan ddiwedd mis Mehefin 2022. Mae swyddogion yn cyflwyno cynigion ar gyfer y gost o tua £0.5 miliwn a amcangyfrifir i barhau â'r cynllun. Yn y lle cyntaf, ceisir sicrhau'r cyllid hwn o'r MEG trwy ddefnyddio unrhyw danwariant a allai fod ar gael. Mae'n bosibl y bydd angen trosglwyddo cyllid o gronfeydd wrth gefn fel rhan o'r broses gyllidebol atodol yn ystod y flwyddyn. 

 

Mae’r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol yn gweithio mewn Partneriaeth Gymdeithasol. Mae aelodau'r Fforwm yn dod at ei gilydd i bennu'r blaenoriaethau a'r amserlen ar gyfer datblygu gwaith y Fforwm. Bydd y Fforwm yn ystyried amrywiaeth o faterion ac argymhellion gwaith teg ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yn ymwneud â thelerau ac amodau gwell, sy'n debygol o gynnwys tâl salwch.

 

 

Argymhelliad 11. Dylai Llywodraeth Cymru nodi’r amserlenni disgwyliedig i’r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol wneud argymhellion brys ar gyfer gwella telerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dylai hyn gynnwys argymhellion ynghylch dilyniant gyrfa ac estyn cymhwystra am dâl salwch am resymau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19.  Dylai hefyd gadarnhau a oes darpariaeth wedi’i chynnwys yn y gyllideb ddrafft i dalu’r costau sy’n gysylltiedig ag unrhyw gynigion (gan gynnwys costau gweithredu).

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

Cafodd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ei gynnull gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddiwedd 2020, ac mae'n Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol dan gadeiryddiaeth yr Athro Rachel Ashworth o Brifysgol Caerdydd. Mae aelodau'r Fforwm yn dod at ei gilydd i bennu'r amserlen ar gyfer ei waith. Amlinellodd y Fforwm ei flaenoriaethau cynnar mewn datganiad sefyllfa'r llynedd. Cyhoeddir hwn ar-lein:  Datganiad sefyllfa: Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol | LLYW.CYMRU

Yn rhan olaf 2021, canolbwyntiodd y Fforwm ar ddarparu cyngor i Weinidogion ar wireddu'r ymrwymiad i'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae bellach yn dychwelyd at y blaenoriaethau ehangach sydd wedi'u hamlinellu yn y datganiad sefyllfa. Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd yn ystyried natur ei argymhellion i'r sector a natur y disgwyliad o safbwynt amserlenni i fwrw ymlaen â'r gwaith. Bydd angen ystyried unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â gwaith y Fforwm, gan gynnwys pwy fydd yn eu hysgwyddo, ochr yn ochr â datblygu'r argymhellion hyn. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Fforwm ac fel aelod o'r Fforwm i ystyried unrhyw alwadau posibl ar gyllideb SSID i gefnogi'r gwaith datblygu. Dyrannwyd £60,000 i werthuso'r ymrwymiad i'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer 2022-23, a bydd hyn yn darparu gwybodaeth bwysig i gefnogi gwaith y Fforwm yn y dyfodol hefyd.

 

 

Argymhelliad 12. Dylai Llywodraeth Cymru roi sicrwydd bod y cyllid sydd ar gael ar gyfer gofal seibiant i ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn ddigonol, gan gynnwys manylion unrhyw asesiadau ariannol penodol sydd wedi’u cynnal ar y gost o ddarparu hoe a seibiant digonol i’r nifer cynyddol o ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

Ymatebodd Llywodraeth Cymru yn gyflym i’r galwadau am fwy o gymorth ar lefel leol drwy ddarparu cyfanswm o £3 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol ledled Cymru yn 2021-22. Mae pob awdurdod lleol yn defnyddio ei ddyraniad i gefnogi mwy o gyfleoedd i ofalwyr gael mynediad at wahanol fathau o hoe, yn ogystal â ffurfiau mwy traddodiadol fel gwasanaeth eistedd dros nos. Cyfeirir at gyllid dangosol o £3 miliwn yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 i fwrw ymlaen â’n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i sefydlu cynllun hoe fer cenedlaethol ar gyfer gofalwyr di-dâl. Fodd bynnag, nid dyma’r unig ffrwd ariannu sy’n cefnogi gofal seibiant.

Mae awdurdodau lleol yn derbyn cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Cynnal Refeniw Llywodraeth Leol. O 2022-23 ymlaen, bydd y Grant yn destun cynnydd blynyddol o £180 miliwn i gefnogi’r cyflog byw i weithwyr gofal cymdeithasol a’r galw cynyddol oherwydd y pandemig. Darperir hyn fel cyllid wedi’i neilltuo, sy’n cynnig cryn hyblygrwydd i awdurdodau flaenoriaethu eu gwasanaethau yn unol ag anghenion eu cymunedau, gan gynnwys gofalwyr di-dâl.

Yn ogystal, bydd disgwyl i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol fuddsoddi o leiaf 5% o fuddsoddiad cyffredinol y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol mewn cymorth uniongyrchol i ofalwyr di-dâl o 2022/23, gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau’n integredig i ddiwallu anghenion iechyd a lles gofalwyr di-dâl.

Gyda niferoedd gofalwyr a lefelau angen yn ein cymunedau lleol yn newid yn gyson, byddai cynnal asesiad ariannol o’r galw am seibiant a hoe fer yn gostus, yn cymryd llawer o amser ac yn gallu dyddio’n fuan iawn. Mae caniatáu i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddefnyddio’r systemau sydd ganddynt ar waith, megis asesiadau o anghenion y boblogaeth, i fonitro ac ymateb i anghenion eu poblogaethau lleol yn ffordd fwy hyblyg a chost-effeithiol o fesur y galw am gyfleoedd gofal seibiant a hoe fer.

Bydd gofalwyr di-dâl eisiau ac angen gwahanol fathau o hoe i ddiwallu eu hanghenion, a bydd lefel y galw wedi newid wrth i gyfyngiadau’r pandemig leddfu neu gael eu hailgyflwyno. Nid oes un ateb addas i bawb. Serch hynny, byddwn yn parhau i weithio gyda’r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Ofalwyr Di-dâl i wireddu gweledigaeth newydd ar gyfer seibiant a hoe fer yng Nghymru.

 

Argymhelliad 13. Dylai Llywodraeth Cymru roi rhagor o fanylion am ei blaenoriaethau strategol ar gyfer atal anghydraddoldebau iechyd a mynd i’r afael â nhw, a sut y mae dyraniadau yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23 wedi’u targedu a sut y cânt eu monitro i sicrhau bod gwariant gan fyrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yn cyflawni’r canlyniadau gofynnol.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae achosion anghydraddoldebau iechyd yn helaeth, fel y mae’r ymyriadau sy’n ofynnol i fynd i’r afael â hwy. O’r herwydd, fel y nodwyd yn ein papur tystiolaeth cychwynnol i’r Pwyllgor ac fel y trafodwyd yn y Senedd yn gynharach eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrechu i ymgorffori gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar draws holl raglenni gwaith y llywodraeth. Cyflawnir hyn drwy ddull iechyd ym mhob polisi Llywodraeth Cymru (wedi’i gefnogi gan asesiadau o’r effaith ar iechyd), a thrwy’r cyd-destun deddfwriaethol a strategol a grëwyd gan nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Yn y tymor hir, bydd y dangosyddion cenedlaethol (gan gynnwys dangosyddion ar ddisgwyliad oes iach adeg geni sy’n cynnwys y bwlch rhwng y rhai mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig, oedolion â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd o fyw iach, plant â dau neu fwy o ymddygiadau ffordd o fyw iach, a’r sgôr lles meddyliol cymedrig), yn ein helpu i ddeall pa mor llwyddiannus fu ein polisïau.

 

Yn 2021, gosododd Llywodraeth Cymru nifer o gerrig milltir cenedlaethol gerbron y Senedd i olrhain ein cynnydd yn erbyn y dangosyddion cenedlaethol. Roedd hyn yn cynnwys carreg filltir genedlaethol yn ymwneud â phlant â dau ymddygiad iach neu fwy. Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i ddatblygu cerrig milltir cenedlaethol mewn perthynas â’r dangosyddion cenedlaethol eraill y cyfeiriwyd atynt yn gynharach a fydd yn helpu i fonitro ein cynnydd o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

 

Yn y cyd-destun hwn, mae Rhaglen Lywodraethu ddiwygiedig Llywodraeth Cymru yn darparu’r nod strategol cyffredinol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb o bob math ac mae’n cynnwys ymrwymiadau sylweddol ar draws holl feysydd gweithgarwch y llywodraeth sydd â’r nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Yng ngoleuni ein dull integredig, mae gweithredu ar anghydraddoldeb iechyd yn flaenoriaeth strategol ar draws pob agwedd ar weithgarwch y llywodraeth. O fewn ein portffolios, mae Cymru Iachach yn cadarnhau pwysigrwydd tyngedfennol gweithgarwch atal a’i gyfraniad at fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

 

Priodolir nifer o’r prif ffactorau risg sy’n gysylltiedig â blynyddoedd o fyw gydag anabledd a blynyddoedd o fywyd a gollir i ymddygiadau ffordd o fyw afiach megis diffyg gweithgarwch corfforol, deiet gwael ac ysmygu. Mae’r ffactorau hyn yn gallu newid drwy waith atal iechyd y cyhoedd, ond gwyddom hefyd bod y ffactorau hyn yn bodoli ar raddiant cymdeithasol, gyda’r rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o fod yn ordew neu i ysmygu na’r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. O ganlyniad, mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy weithgarwch atal o ran rheoli pwysau a rhoi’r gorau i ysmygu yn flaenoriaethau strategol ar gyfer cyflawni. O’r herwydd, mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd wrth wraidd ein cynigion i fynd i’r afael â gordewdra ac i helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu.

 

Byddwn yn darparu rhagor o fanylion am ein blaenoriaethau strategol mewn perthynas â mynd i’r afael â gordewdra yn y Cynllun Cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach 2022-24, a gyhoeddir ym mis Mawrth. At hynny, dechreuodd yr ymgynghoriad ar ein Strategaeth Hirdymor ar Reoli Tybaco ddrafft i Gymru a’i Chynllun Cyflawni cysylltiedig ar gyfer 2022-24 ym mis Tachwedd 2021 a bydd yn cau ar 31 Mawrth 2022. Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad, byddwn yn cyhoeddi ein Strategaeth Rheoli Tybaco a’r cynllun gweithredu yn ddiweddarach eleni.

 

Yn y pwyntiau bwled isod, rydym yn tynnu sylw at enghreifftiau penodol o sut y mae dyraniadau yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23 yn cyflawni yn erbyn y blaenoriaethau hyn:

 

·         Fel y trafodwyd yn fyr yn sesiwn y pwyllgor ar 13 Ionawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i ail-flaenoriaethu’r cyllid Atal a’r Blynyddoedd Cynnar blynyddol o £7.2 miliwn o fis Ebrill 2022. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio gan Gyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd ar draws yr holl fyrddau iechyd, a thros y flwyddyn ariannol nesaf rhoddir diben newydd iddo i gefnogi ymyriadau ym meysydd polisi gordewdra a thybaco i gefnogi prosiectau a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at y nodau canlynol:

·         Ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, cefnogi’r gwaith o gyflwyno Helpa Fi i Stopio yn yr Ysbyty (y model rhoi’r gorau i ysmygu gofal eilaidd) ym mhob bwrdd iechyd lleol, yn seiliedig yn fras ar fodel ‘Ottawa’;

·         Cefnogi gostyngiad yn nifer y bobl sy’n ysmygu yn ystod beichiogrwydd a chefnogi rhoi’r gorau i ysmygu; a

·         Cefnogi gwaith atal ym meysydd gordewdra a gorbwysau, yn unol â’r strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach a bodloni mesurau iechyd presennol y boblogaeth.

Er mwyn monitro cynnydd, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi amlinellu disgwyliadau ynghylch rhai mesurau iechyd y boblogaeth fel rhan o Fframwaith Cyflawni’r GIG, sy’n canolbwyntio ar fesurau’n ymwneud â thybaco a gordewdra.

 

·         Drwy ein strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach, rydym yn blaenoriaethu sut y byddwn yn galluogi ac yn helpu i gefnogi newid cadarnhaol. Mae’r cynllun cyflawni ar gyfer 2022-24 yn cael ei gefnogi gan ddyraniad cyllideb o £13 miliwn (£6.63 miliwn y flwyddyn) ac mae’n cynnig cymorth uniongyrchol i nifer o gamau ataliol sydd hefyd yn ceisio lleihau anghydraddoldebau iechyd. Nodir y dyraniad cyllid isod:

·         Buddsoddiad o £2.9 miliwn y flwyddyn i ddarparu gwasanaethau gyda Byrddau Iechyd Lleol drwy Lwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan.

·         Buddsoddiad o £1.2 miliwn mewn dulliau sy’n seiliedig ar systemau, er mwyn helpu i gefnogi a sbarduno gweithredu a chyflawni lleol, yn cynnwys gweithio gyda chymunedau lleol i gyd-ddylunio a galluogi gwneud penderfyniadau lleol.

·         Buddsoddiad o £0.6 miliwn mewn Cynllun Peilot Plant a Theuluoedd sy’n digwydd mewn tair ardal – Caerdydd, Merthyr Tudful ac Ynys Môn. Rhan greiddiol o’r dull hwn yw gweithredu atal eilaidd Ymyriad yn y Cartref ar gyfer teuluoedd plant yn y blynyddoedd cynnar o 3 i 7 oed yn unol â’r cyfnod sylfaen.

·         Buddsoddiad o £0.6 miliwn drwy Chwaraeon Cymru i barhau i ddarparu cynnig hamdden i bobl dros 60 oed ac i fuddsoddi arian i weithio gyda Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol i gynyddu cyfleoedd i blant a theuluoedd.

·         Buddsoddiad o £1 miliwn i gyflwyno Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, sy’n cael ei threialu ar draws holl Fyrddau Iechyd Lleol Cymru.

·         £0.33 miliwn i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gwaith gwerthuso, cyfathrebu ac ymchwil bellach. Mae hyn yn rhoi’r adnoddau i ni ddeall a yw’r hyn sy’n cael ei ddarparu yn briodol i boblogaeth Cymru ac a oes angen ehangu neu ail-flaenoriaethu meysydd er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth.

 

·         Mae’r Gronfa Iach ac Egnïol gwerth £5.9 miliwn, sydd ar gael dros bedair blynedd (2019-2023), yn ariannu 16 o brosiectau sy’n ceisio gwella iechyd meddwl ac iechyd corfforol drwy alluogi ffyrdd iach ac egnïol o fyw. Mae prosiectau a ariennir gan y gronfa’n ceisio lleihau anghydraddoldebau  o ran deilliannau ar gyfer un neu fwy o’r grwpiau canlynol: plant a phobl ifanc; pobl ag anabledd neu salwch hirdymor; pobl sy’n economaidd anweithgar neu sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd; a phobl hŷn a’r rhai o gwmpas oedran ymddeol o’r gwaith.

 

Yn ogystal â’r rhaglenni gwaith a nodir uchod, mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith Cymru gyfan i gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol hefyd. Bydd y fframwaith yn cyfrannu at hwyluso mynediad at wasanaethau atal ledled Cymru ac yn gweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae’r fframwaith wrthi’n cael ei ddatblygu a bydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn.

 

 

Argymhelliad 14. Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu rhagor o fanylion am sut y bydd dyraniadau penodol o fewn y gyllideb ddrafft yn cyfrannu at symud adnoddau tuag at ofal sylfaenol a chymunedol, a sut y caiff y cynnydd a wneir â’r newid hwnnw ei fonitro drwy gydol y flwyddyn ariannol.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Cymru Iachach yn cyflwyno gweledigaeth glir o wasanaethau iechyd a gofal sydd â’r nod o gynorthwyo pobl i wneud yr hyn sy’n bwysig iddynt, sy’n hygyrch yn y cartref neu mor agos ato â phosibl. Ni ddylai unrhyw un dderbyn gofal mewn ysbyty cyffredinol dosbarth oni bai mai dyma’r lle cywir ar gyfer anghenion yr unigolyn hwnnw. Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, mae’n ofynnol i’r system iechyd a gofal gyfan ail-gydbwyso ffocws arweinyddiaeth a dyrannu cyllid, y gweithlu ac adnoddau eraill oddi wrth ysbytai a salwch tuag at iechyd a lles yn ein cymunedau.

 

Wrth i Gymru symud o’r pandemig i’r endemig, mae cyfle unigryw i gynyddu cyflymder a graddfa ailgydbwyso’r system a rhoi terfyn ar y model meddygol traddodiadol lle mae gofal mewn ysbytai yn denu’r gyfran fwyaf o adnoddau a sylw.

 

Mae papur diweddar Cronfa’r Brenin, ‘Covid-19 recovery and resilience: what can health and care learn from other disasters?’ yn dweud bod adferiad llwyddiannus a chynaliadwy yn bosibl os oes buddsoddiad yng ngwydnwch cymunedau a dulliau a arweinir gan y gymuned.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi esbonio sut y mae’n disgwyl i’r her hon ennyn ymateb ar lefel leol drwy Fframwaith Cynllunio’r GIG 2022-25 a mesurau Gweinidogol. Mae’r mesurau Gweinidogol hyn yn cynnwys categori ar gyfer Gofal yn Nes at y Cartref a fydd, wrth i’r mesurau esblygu, ar y cyd â’r Fframwaith Deilliant Sengl sy’n cael ei ddatblygu, yn olrhain y deilliannau gwell ar gyfer iechyd a lles poblogaeth Cymru.

 

Mae enghreifftiau o ddyraniadau penodol yng Nghyllideb 2022-23 sy’n cefnogi ailgydbwyso cynyddol y system iechyd a gofal yn cynnwys:

 

·         £170 miliwn i adfer ac ailosod system gofal wedi’i chynllunio ar draws gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd

·         Bydd Cronfa Integreiddio Rhanbarthol pum mlynedd gwerth £144.7 miliwn yn cael ei lansio ar 1 Ebrill 2022. Bydd yn sbarduno newid a thrawsnewid ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddatblygu o leiaf chwe model cenedlaethol newydd o ofal integredig, gyda dau ohonynt yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar ofal cymunedol: Gofal cymunedol – atal a chydgysylltu cymunedol, a Gofal cymunedol – gofal cymhleth yn nes at y cartref

 

·         Polisi Digidol gwerth £60 miliwn a’r Gronfa Buddsoddi Blaenoriaethau Digidol.

 

Mae nifer o fentrau’n galluogi symud gofal oddi wrth ysbytai, wedi’u hariannu drwy’r Gronfa Buddsoddi Blaenoriaethau Digidol.

·         Mae Gofal a Alluogir gan Dechnoleg Cymru (TEC Cymru) yn canolbwyntio ar raddfa a lledaeniad teleiechyd a theleofal (gan gynnwys ymgynghoriadau fideo) ledled Cymru, ar draws byrddau iechyd a sefydliadau gofal cymdeithasol.

·         Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn galluogi rhannu cofnodion gofal rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ddarparu dealltwriaeth gliriach o’r claf/defnyddiwr gwasanaeth drwy ddarparu data ychwanegol i’r clinigwyr neu’r darparwr gwasanaeth

·         Bydd defnyddio dadansoddiad actiwaraidd o iechyd y boblogaeth ledled Cymru yn galluogi targedu ymyriadau gofal gwell - gan helpu i ddeall sut y gallai ymyriadau cynharach wella deilliannau iechyd, o dargedu’r cleifion a fyddai’n elwa fwyaf.

 

Yn ogystal, gwnaed buddsoddiad pellach mewn gwasanaethau dan gontract gofal sylfaenol eleni i gynyddu atal:

·         Drwy’r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, darparwyd £2 filiwn o gyllid yn ystod y flwyddyn i gefnogi capasiti ychwanegol drwy gyfnod y gaeaf. O fis Ebrill 2022 ymlaen, bydd hyn yn cynyddu i £4 miliwn ac yn cefnogi’r nod o ddarparu mwy o ofal cymunedol drwy gynyddu adnoddau.

·         Mae’r cytundeb tair blynedd Fframwaith Contractiol Fferylliaeth Gymunedol presennol yn darparu £18.3 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer fferyllfeydd erbyn mis Mawrth 2023, gan ganolbwyntio’n glir ar ddarparu gwasanaeth clinigol a symud oddi wrth ddull cyflenwi’n unig.

·         Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol yng Nghymru. Un o’r prif flaenoriaethau yw symud gwasanaethau o ysbytai i ofal sylfaenol i fynd i’r afael ag ôl-groniad apwyntiadau cleifion mewn ysbytai ac oedi wrth wneud gwaith dilynol, a rhyddhau adnoddau meddygon ymgynghorol a meddygon teulu.

 

 

 

Argymhelliad 15. Dylai Llywodraeth Cymru amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y dyraniad ychwanegol o £50 miliwn ar gyfer iechyd meddwl, a darparu manylion ynghylch sut y caiff cyllid ei ddyrannu i fyrddau iechyd a sut y caiff gwariant a chanlyniadau eu monitro a’u hadrodd.

 

Ymateb: Derbyn

 

Rydym yn gweithio drwy fanylion y dyraniadau cyllid ond gallwn gadarnhau y bydd yn cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl rheng flaen, ochr yn ochr â meysydd fel gweithredu’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, atal ym maes iechyd y cyhoedd, camddefnyddio sylweddau a chynorthwyo pobl i aros mewn cyflogaeth pan fo ganddynt broblemau iechyd meddwl / camddefnyddio sylweddau. Bydd y £50 miliwn sy’n cael ei ddyrannu yn cyfrannu hefyd

 

 at gefnogi ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i flaenoriaethu ailgynllunio gwasanaethau i wella atal, mynd i’r afael â stigma a hyrwyddo dull o ymdrin â chymorth iechyd meddwl sy’n sicrhau y caiff pobl eu cyfeirio at y cyngor a’r cymorth cywir ar yr adeg gywir.

 

Bydd cyllid sy’n cael ei gyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl yn helpu i adfer gwasanaethau a’r blaenoriaethau a nodir yng Nghynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar allu byrddau iechyd i recriwtio i swyddi a nodwyd ac a gymeradwywyd yn ystod 2021/22. Er ein bod yn ymgynghori ar ein cynllun tymor hwy ar gyfer gweithlu iechyd meddwl cynaliadwy, mae angen i ni gydnabod yr her i fyrddau iechyd wrth lenwi swyddi gwag presennol ac ehangu gwasanaethau blaenoriaeth lle mae recriwtio’n anodd. Felly, cyn i ni ryddhau arian i fyrddau iechyd ar gyfer 2022/23, rydym yn cynnal ymarferiad ar draws yr holl fyrddau iechyd i nodi unrhyw swyddi / graddau etifeddol nad ydynt wedi recriwtio iddynt eto. Drwy weithio gyda byrddau iechyd, byddwn yn gallu ystyried hefyd pa gamau pellach y gellir eu cymryd yn genedlaethol i gryfhau’r ddarpariaeth yn y meysydd allweddol hyn, tra’n caniatáu amser i fyrddau iechyd recriwtio i swyddi a gymeradwywyd yn flaenorol. Yn dilyn y gwaith hwn, byddwn mewn sefyllfa i gadarnhau dyraniadau’r cyllid ychwanegol.

 

Argymhelliad 16. Dylai Llywodraeth Cymru egluro pryd y mae’n bwriadu cyhoeddi ei chynigion ar gyfer iechyd menywod. Pan fydd y cynigion yn cael eu cyflwyno, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau eu bod yn cynnwys:

·         Manylion am sut y mae’r cynigion yn adlewyrchu hunaniaethau a nodweddion aml-haenog a chroestoriadol menywod, a sut y bydd gwasanaethau, ymyriadau a chyllid yn cael eu targedu i ystyried anghydraddoldebau iechyd presennol.

·         Amcanion clir a mesuradwy, a manylion am sut y caiff y cynnydd a wneir ei asesu a’i adrodd.

·         Cadarnhad o’r adnoddau sydd ar gael i gyflawni amcanion y cynigion.

·         Manylion cynlluniau Llywodraeth Cymru i ymgysylltu a chyfathrebu â menywod a merched ynglŷn â’r cynigion.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae cynigion Llywodraeth Cymru i gefnogi iechyd menywod yn dal i fod yn y cyfnod cynnar o ran eu datblygu. Gwnaed gwaith cychwynnol gyda chlymblaid o grwpiau menywod a defnyddwyr gwasanaethau i gynhyrchu Datganiad Ansawdd iechyd menywod. Derbyniwyd drafft cyntaf y ddogfen hon ac mae’n cael ei ystyried gan swyddogion polisi. Y bwriad yw cyhoeddi’r Datganiad Ansawdd erbyn mis Mai 2022.

 

Mae swyddogion yn mynychu cyfarfodydd y tasglu menopos dan arweiniad Llywodraeth y DU, a byddant yn cyfrannu at gamau gweithredu sy’n cael eu sbarduno gan y grŵp hwnnw, a fydd yn arwain at rannu arferion gorau i gefnogi menywod sy’n profi’r menopos yng Nghymru. Y bwriad yw y bydd hyn yn cynnwys llwybr menopos newydd.

 

Mae swyddogion newydd ddechrau datblygu cynllun iechyd menywod. Nod y cynllun yw helpu i wella gwasanaethau iechyd a chanlyniadau i fenywod a merched yng Nghymru. Mae’r cynllun yn ategu ac adeiladu ar y cysyniadau ar gyfer gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd yn Cymru Iachach, ac mae angen ei ystyried yn y cyd-destun hwnnw. Wrth i’r cynllun gael ei ddatblygu, mae swyddogion yn rhagweld y bydd ymgysylltu rheolaidd â chlinigwyr a grwpiau menywod i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion menywod a merched. Mae swyddogion yn bwriadu cyhoeddi’r cynllun yn ystod hydref 2022.

 

 

Argymhelliad 17. Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu rhagor o wybodaeth am sut y mae’n bwriadu clustnodi cymorth ariannol ar gyfer diagnosis a gofal dementia.

 

Ymateb: Derbyn

 

Yn 2021/22, rydym wedi dyrannu £3 miliwn ychwanegol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau asesu cof, er mwyn darparu cymorth ychwanegol i bobl yn ystod y broses asesu ac ar ôl cael diagnosis. Mae hyn yn ychwanegol at y £9 miliwn a ddyrannwyd ar adeg cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia i ddatblygu dull ar y cyd i feysydd iechyd a gofal cymdeithasol ymdrin â chymorth dementia. Mae hynny’n gynnydd sylweddol o ran cyllid, i gefnogi gweithredu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia yn uniongyrchol. Mae hyn ar ben cyllid arall sydd ar gael, er enghraifft drwy’r Gronfa Fuddsoddi Ranbarthol sy’n dechrau yn 2022/23. Nid ydym wedi dyrannu unrhyw gyllid pellach yn 2022/23 i gefnogi’r broses o weithredu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia yn uniongyrchol, gan ein bod yn ei ddefnyddio fel cyfnod i atgyfnerthu’r defnydd o’r arian ychwanegol sydd ar gael ers eleni. Byddwn yn adolygu hyn yn yr hydref, gyda’r bwriad o ddyrannu cyllid pellach yn y maes blaenoriaeth allweddol hwn o 2023/24 ymlaen.

 

Argymhelliad 18. Dylai Llywodraeth Cymru roi sicrwydd y bydd y gyllideb ddrafft yn mynd i’r afael â’r argyfwng uniongyrchol sy’n wynebu gofal cymdeithasol yng Nghymru a’r heriau tymor hwy. Dylai hyn gynnwys nodi ac egluro:

·         Y camau a gymerir yn y tymor byr i fynd i’r afael â’r gweithlu a phwysau eraill y mae darparwyr gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, a manylion unrhyw gynlluniau wrth gefn sydd ar waith i sicrhau bod pobl yn parhau i gael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt pe bai’r pwysau a wynebir gan y sector yn gwaethygu.

Ymateb: Derbyn

 

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd £43 miliwn o gyllid i gefnogi codiadau cyflog i weithwyr gofal cymdeithasol i gyfraddau cyflog byw y Living Wage Foundation. Bydd y gwaith o gyflwyno’r ymrwymiad hwn yn dechrau ym mis Ebrill 2022 ac mae ar gyfer gweithwyr cofrestredig mewn cartrefi gofal a gofal cartref, mewn gwasanaethau i oedolion a phlant, ac ar gyfer cynorthwywyr personol sy’n cael eu hariannu drwy daliad uniongyrchol. Mae hwn yn ymrwymiad hirdymor sy’n cyflwyno llinell sylfaen newydd ar gyfer y sector. Mae’n gysylltiedig â’n rhaglen waith sydd â’r nod o broffesiynoli’r sector, gwella telerau ac amodau a’i wneud yn faes mwy deniadol i weithio ynddo.

 

Ar 10 Chwefror, cyhoeddwyd taliad ychwanegol i weithwyr gofal cymdeithasol sy’n cyd-fynd â’r cyflog byw gwirioneddol. Gwneir y taliad hwn o £1,498 i’r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny a fydd yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol ynghyd â rheolwyr mewn cartrefi gofal a gofal cartref. Amcangyfrifir y bydd y cynllun yn costio tua £100 miliwn. Mae £96 miliwn wedi’i gyllidebu o’r MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2021-22 ac mae £4.3 miliwn arall wedi’i gymeradwyo o gyllid 2022-23. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn caniatáu i’r taliad ychwanegol gael ei wneud i weithwyr gofal cymdeithasol cymwys sydd wedi dechrau yn y sector o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar hyn o bryd, ond mae taliadau’n debygol o fynd allan ym mis Mehefin 2022. Diben y cynllun yw tanlinellu ymhellach ein hymrwymiad i weithwyr gofal cymdeithasol. Bydd y taliad ychwanegol hwn, ynghyd â’r cyflog byw gwirioneddol, yn ein helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau y mae darparwyr yn eu hwynebu wrth recriwtio a chadw pobl â’r sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd â’r rolau hollbwysig hyn.

Rydym wedi ariannu ymgyrch recriwtio helaeth o fis Awst 2021 ymlaen a fydd yn parhau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae hyn yn cynnwys hysbysebu helaeth ar deledu, radio a’r cyfryngau cymdeithasol, a hysbysebu y tu allan i’r cartref. Mae hyn yn cynnwys hysbysebu helaeth ar deledu a radio ac mewn sinemâu, ynghyd â hysbysebu digidol (YouTube, Facebook, Google) ac ar fysiau a threnau ac mewn archfarchnadoedd. Mae hyn wedi arwain at gynnydd o 176.5% mewn traffig i borth swyddi cenedlaethol Gofalwn.cymru, o’i gymharu â’r un cyfnod 12 mis ynghynt.

 

 

Argymhelliad 19. Y camau a gymerir yn ystod y gyllideb aml-flwyddyn hon i sefydlogi’r sector, paratoi ar gyfer diwygiadau, a sicrhau cydbwysedd teg a chynaliadwy rhwng cyllid ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae’r gyllideb yn darparu cynnydd sylweddol o ran adnoddau ar gyfer awdurdodau lleol; gyda £180 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu yn y setliad Llywodraeth Leol i weithredu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, ac i gefnogi pwysau’r sector. Mae’r dyraniadau hyn yn adlewyrchu ein dewis clir i fuddsoddi yn y gweithlu gofal cymdeithasol, i gefnogi’r rhai sy’n gweithio mor galed ar ein rhan, i sefydlogi ein darpariaeth gofal, ac i gynnig cefnogaeth well i bobl ag anghenion gofal.

 

Yn ogystal, bydd Cronfa Gyfalaf o £50 miliwn yn rhan o’r MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o 2022-23 ymlaen. Bydd hyn yn codi i £60 miliwn yn 2023-24, a £70 miliwn yn 2024-25. Bydd y Gronfa Gyfalaf newydd hon yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ledled Cymru, ac ailgydbwyso gofal cymdeithasol drwy fuddsoddi yn ein hystad gofal cymdeithasol. Mae’r cyllid newydd hwn yn ychwanegol at y cyllid sylfaenol ar gyfer gofal cymdeithasol, gan alluogi cefnogaeth barhaus i weithgarwch ar draws y sector gofal cymdeithasol. Bydd y dyraniad gofal cymdeithasol hwn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddylanwadu’n uniongyrchol ar drawsnewid seilwaith gofal cymdeithasol yn unol â dyheadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a Cymru Iachach, ac mae’n dystiolaeth o sicrhau cydbwysedd cyllid tecach a mwy cynaliadwy.

 

O fewn y MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mae cronfa diwygio gofal cymdeithasol newydd gwerth £45 miliwn wedi’i chreu o 2022-23 ymlaen, gan godi i £55 miliwn yn 2023-34, a £60 miliwn yn 2024-25. Defnyddir y gronfa ddiwygio hon i gefnogi’r gwaith o ddiwygio a darparu gwasanaethau cynaliadwy ar draws y sector gofal cymdeithasol, ac i gyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio gofal cymdeithasol ac i ddiogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed.

 

Mae’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol gwerth £144.7 miliwn yn gyfuniad o sawl ffrwd ariannu a arferai fod ar wahân. Mae wedi manteisio ar yr hyn a ddysgwyd gan y Gronfa Gofal Integredig a’r Gronfa Trawsnewid, gan adeiladu ar lwyddiannau allweddol a gwneud newidiadau lle’r oedd angen gwella. O ran y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol newydd, mae’r gwahaniaethau allweddol yn cynnwys y ffocws ar ddatblygu ac ymwreiddio chwe model gofal cenedlaethol, gofyniad newydd am arian cyfatebol i gefnogi prif ffrydio gwasanaethau, cymorth penodol ar gyfer costau seilwaith y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, datblygu fframwaith mesur canlyniadau o’r cychwyn cyntaf, a strategaeth ymadael glir ar gyfer diwedd y rhaglen. Bydd y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn destun trefniadau monitro a chraffu clir a chadarn sy’n cael eu sefydlu i gefnogi cyflawni effeithiol.

 

Bydd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn datblygu cynlluniau buddsoddi ar gyfer y Gronfa Gyfalaf newydd, ochr yn ochr â’u cynlluniau ar gyfer y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Bydd hyn yn creu’r effaith fwyaf posibl, gan sicrhau bod buddsoddiad cyfalaf a refeniw yn cydweddu, ac y gellir datblygu a gweithredu modelau gofal a chyflenwi integredig.

 

Mae angen sector gofal cymdeithasol cryf arnom i oresgyn yr argyfwng presennol sy’n wynebu gofal cymdeithasol yng Nghymru a’r heriau tymor hwy, ac mae’r gyllideb hon yn gam mawr tuag at ddyfodol cryfach. Fodd bynnag, nid yw “cryfach” a “mwy cynaliadwy” yn golygu aros yr un fath. Mae ein cynlluniau ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn sail i’n huchelgais ar gyfer dyfodol y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

 

 

Argymhelliad 19. Dylai Llywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynnydd neu ddatblygiadau o ran talu am ofal yng Nghymru, ac unrhyw asesiadau o’r goblygiadau ariannu cysylltiedig.

 

Ymateb: Derbyn

Rydym wedi blaenoriaethu buddsoddiad yn y gweithlu gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, yn hytrach na diwygio’r drefn codi tâl, oherwydd mae’r heriau enfawr ym maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd yn rhan o’r argyfwng ehangach yn y farchnad lafur y mae nifer o sectorau’n ei wynebu. Y flaenoriaeth uniongyrchol yw gweithredu i fynd i’r afael â hyn.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi dewis llwybr gwahanol, gan ffafrio diwygio’r drefn codi tâl yn y tymor byr, ond ein dewis uniongyrchol ni i sefydlogi’r sector drwy gefnogi’r gweithlu yw’r dewis cywir i Gymru.

Fodd bynnag, mae gennym uchelgais hirdymor, sy’n cael ei rhannu gan Blaid Cymru, i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen ac sy’n parhau fel gwasanaeth cyhoeddus. Mae Grŵp Arbenigol yn cael ei sefydlu i weithio’n gyflym i gynnig camau nesaf ymarferol i’r perwyl hwn.

Yn amlwg, bydd cost ynghlwm wrth ddarparu gofal am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen; nid yw gweithredu agenda uchelgeisiol fel hon ar unwaith yn bosibl chwaith. Ein barn ar hyn o bryd yw na fydd gwireddu ein huchelgais o gael “gofal am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen” yn cael ei gyflawni’n llawn o fewn cyfnod y gyllideb hon, o ystyried cymhlethdod posibl gweithredu hynny neu ofynion posibl ar gyfer newid deddfwriaethol. Bydd yn bwysig edrych ar y camau nesaf ymarferol y mae’r Grŵp Arbenigol yn eu cynnig, gan gynnwys eu hamserlenni ar gyfer cyflenwi a chostau, er mwyn diffinio’r goblygiadau cyllidebol hirdymor cysylltiedig.

 

Argymhelliad 20. Dylai Llywodraeth Cymru esbonio sut y bydd disodli’r gronfa gofal integredig a’r gronfa drawsnewid â’r gronfa integreiddio ranbarthol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn esgor ar arloesedd a thrawsnewid ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Dylai hyn gynnwys eglurder ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei blaenoriaethau’n cael eu hadlewyrchu yn y cynlluniau a ddatblygir gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, sut y caiff arfer da ei gyflwyno a’i brif-ffrydio, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn craffu ar gynlluniau o’r fath a’u monitro, a hynny mewn modd tryloyw.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn ysgogiad allweddol ar gyfer sbarduno newid a thrawsnewid trwy’r system iechyd a gofal cymdeithasol. Ein nod yw y byddwn, erbyn diwedd y pum mlynedd, wedi sefydlu a phrif ffrydio o leiaf chwech o fodelau gofal integredig cenedlaethol newydd, fel y bydd modd i ddinasyddion Cymru, ni waeth ymhle y bônt yn byw, fod yn dawel eu meddwl y cânt wasanaeth effeithiol a di-dor mewn perthynas â’r canlynol:

·         Gofal cymunedol – atal a chydgysylltu cymunedol

·         Gofal cymunedol – gofal cymhleth yn nes at y cartref

·         Hyrwyddo iechyd a llesiant emosiynol da

·         Cynorthwyo teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel a chymorth therapiwtig i blant â phrofiad o fod mewn gofal

·         Gwasanaethau gartref o’r ysbyty

·         Atebion seiliedig ar lety

Cafodd y chwe model gofal integredig hyn eu pennu a’u blaenoriaethu ar gyfer buddsoddi ar sail profiadau a gwersi a ddeilliodd o’r Gronfa Gofal Integredig a’r Gronfa Trawsnewid a thrwy fynd i’r afael â gwaith ymgysylltu a gwaith cyd-lunio helaeth gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a phartneriaid allweddol. O ganlyniad, rhaid i bob gweithgarwch a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol fynd ati’n uniongyrchol i ddatblygu a darparu’r chwe model gofal integredig cenedlaethol. Bydd yn ofynnol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol gyflwyno eu rhaglenni gwaith arfaethedig drwy gynlluniau buddsoddi. Bydd ganddynt hyblygrwydd i benderfynu pa brosiectau a gwasanaethau a fydd yn cydweddu â pha fodel gofal, ond yn y bôn bydd yn rhaid i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sicrhau bod eu cynlluniau’n bodloni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru drwy;

·         fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu ac ymgorffori’r chwe model gofal â blaenoriaeth.

·         dangos eu bod yn diwallu anghenion yr holl grwpiau poblogaeth â blaenoriaeth ym mhob model gofal (gan nodi y bydd rhai grwpiau blaenoriaeth yn fwy perthnasol nag eraill i bob model gofal).

·         defnyddio dulliau galluogi allweddol i’r graddau mwyaf posibl er mwyn sicrhau bod eu modelau gofal yn arloesol, yn integredig ac yn drawsnewidiol. Mae’r rhain yn cynnwys; cynllunio a chomisiynu integredig, technoleg ac atebion digidol, hyrwyddo’r sector gwerth cymdeithasol, hybiau cymunedol integredig a datblygu ac integreiddio’r gweithlu.

·         manteisio ar bob cyfle ar draws yr holl grwpiau poblogaeth i gynyddu ‘arlwy gweithredol’ y gwasanaethau integredig trwy gyfrwng y Gymraeg.

Er y bydd y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn cynnig cyfle i gynorthwyo i greu mwy o fodelau gofal newydd, bydd hefyd yn galluogi’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i brif ffrydio ac ymgorffori modelau darparu effeithiol a brofwyd eisoes o dan y Gronfa Gofal Integredig neu’r Gronfa Trawsnewid, a bydd hefyd yn cynorthwyo i gydweddu ac integreiddio gwasanaethau presennol mewn modd strategol.

Cafodd strwythur cyllido’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ei gyd-lunio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol er mwyn annog ymhellach y gwaith o brofi, ymgorffori a phrif ffrydio modelau gofal integredig cenedlaethol. Ochr yn ochr â chyllid hirdymor, mae’r cymorth hwn a gaiff ei leihau’n raddol yn nodwedd allweddol ar y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol newydd. Y diben yw sicrhau y bydd modelau gofal cenedlaethol yn cael eu hymgorffori a’u prif ffrydio mewn gwasanaethau craidd trwy ddenu cymorth gan gyllidebau craidd sefydliadau statudol, sydd wedi derbyn cynnydd yn eu cyllidebau wedi datganiad cyllideb diweddar Llywodraeth Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Ar sail yr hyn a ddysgwyd yn sgil y Gronfa Gofal Integredig a’r Gronfa Trawsnewid, roedd y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol angen fframwaith canlyniadau clir lle câi canlyniadau a dulliau mesur allweddol eu nodi’n glir. Bydd y fframwaith hwn yn ein galluogi i weld yn glir y newidiadau sy’n digwydd ar draws y system o ganlyniad i fuddsoddiad y Gronfa. Byddwn yn parhau i weithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a phartneriaid cyflawni i siapio ein fframwaith canlyniadau, a bydd adolygiadau parhaus yn cael eu cynnal trwy gyfrwng ein Cymunedau Ymarfer. Bydd lleiafswm o chwech o Gymunedau Ymarfer, un i bob model gofal, yn cael eu sefydlu i rannu dysgu a chynorthwyo i ddatblygu ac ymgorffori’r modelau gofal integredig hyn.

Defnyddir adroddiad statws i goladu data penodol bob chwarter, i gynnal cywirdeb yr adrodd ac i gynorthwyo proses archwilio a gwerthuso lwyddiannus. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol bob chwarter er mwyn cynnal cyfarfodydd cynnydd, gan drafod cyllid, gweithgareddau allweddol, cynnydd a risgiau. Yn ogystal â’r gofynion adrodd, bydd archwiliadau cyfnodol yn cael eu cynnal dros oes y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Nod yr archwiliadau fydd asesu effaith ymddangosiadol a/neu botensial y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol o ran atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys yn yr hirdymor er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i gynllunio’n well ar gyfer llesiant ein poblogaeth a chenedlaethau’r dyfodol.

 

Argymhelliad 21. Dylai Llywodraeth Cymru nodi’r camau nesaf a’r amserlenni cysylltiedig ar gyfer datblygu rôl a gweithrediad Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, gan gynnwys sut y caiff eu trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd eu cryfhau a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn gweithredu ar lefel y rhai mwyaf llwyddiannus.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Cymru wedi bod ar daith sicr tuag at integreiddio ers lansio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn 2014 gan gynnwys;

 

 

Cynigiodd Papur Gwyn Ailgydbwyso Gofal a Chymorth 2021 ddatrys rhai o’r heriau llywodraethu ac atebolrwydd a wynebir gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol drwy eu gwneud yn endidau cyfreithiol corfforaethol. Fodd bynnag, roedd partneriaid statudol yn glir nad oedd hwn yn gam angenrheidiol na dymunol ac felly cytunwyd i weithio o fewn y ddeddfwriaeth a’r strwythurau presennol i gryfhau rôl y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

 

O ganlyniad, mae’r rhaglen ailgydbwyso gofal a chymorth wedi’i sefydlu i gryfhau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ymhellach drwy esbonio a chryfhau pum maes allweddol;

 

 

Mae pum grŵp rhanddeiliaid yn cael eu sefydlu i oruchwylio’r cynnydd mewn perthynas â phob un o’r meysydd allweddol hyn, a’r bwriad yw y byddant yn adolygu ac yn cryfhau’r trefniadau presennol gan arwain at ganllawiau Rhan 9 diwygiedig ar gyfer 2023. Mae llawer o waith ar y gweill eisoes i fwrw ymlaen â’r gwaith cryfhau hwn.

 

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos iawn gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddarparu cymorth a her barhaus ar weithredu canllawiau Rhan 9. Mae swyddogion yn cyfarfod ag arweinwyr y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol o leiaf unwaith y mis i gefnogi rhannu dysgu ar draws Rhanbarthau, a bydd Gweinidogion yn cyfarfod â Chadeiryddion a staff arweiniol y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol bob chwarter i fonitro cynnydd ac i gefnogi rhannu arfer gorau ledled Cymru.

 

Mae fframwaith canlyniadau integredig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei ddatblygu i’n helpu i fesur effeithiau darparu gwasanaethau integredig.

 

 

Argymhelliad 22. Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu dadansoddiad o’r costau ynni presennol a’r costau ynni a ragwelir ar gyfer byrddau iechyd yng Nghymru, a beth, yn ymarferol, y bydd yn ei olygu i fyrddau iechyd a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu os bydd costau ynni a’r galw am wresogi ac oeri yn parhau i godi’n sylweddol. Dylai hefyd roi manylion unrhyw ganllawiau a ddarperir i gyrff iechyd a gofal cymdeithasol mewn perthynas â chostau ynni neu gynllunio ar gyfer anghenion ynni.

                     

Ymateb: Derbyn

 

Mae GIG Cymru wedi cydlynu’r gwaith o brynu ynni drwy Grŵp Rheoli Risgiau Prisiau Ynni (EPRMG) ers 2015. Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys staff ystadau sydd â chyfrifoldebau rheoli ynni a staff cyllid – gyda chynrychiolwyr o bob Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth yn GIG Cymru. Mae’n cael ei gefnogi gan Nwy Prydain hefyd. Yn ystod cyfarfodydd rheolaidd, mae’r EPRMG yn cael sesiwn trosolwg o’r farchnad gan arbenigwr o Nwy Prydain sydd â gwybodaeth fanwl am amodau’r farchnad a’r materion sy’n dylanwadu ar godi a gostwng prisiau. Mae’r papur briffio hwn yn cael ei dderbyn cyn i’r grŵp ystyried ei strategaeth brisio.

 

O dan amodau marchnad arferol, mae’r GIG yn gwario tua £13.5 miliwn ar nwy naturiol y flwyddyn, a £26 miliwn ar drydan. O ystyried sefyllfa ddigynsail y farchnad ynni dros y chwe mis diwethaf, mae’r EPRMG wedi bod yn cyfarfod yn fisol gydag agenda lawn i benderfynu ar y dull prynu ynni ar gyfer y cyfnod sydd i ddod. Mae GIG Cymru wedi elwa’n sylweddol o’r strategaeth a roddwyd ar waith gan yr EPRMG. Mae’r strategaeth hon wedi diogelu GIG Cymru i raddau rhag y cynnydd enfawr ym mhrisiau’r farchnad ar gyfer 2021/22. O ystyried y cynnydd digynsail mewn prisiau, mae’r grŵp wedi bod yn amharod i brynu am fisoedd lawer i ddod rhag ofn clymu eu hunain i brisiau uchel pe bai prisiau’r farchnad yn gwella, ac wedi mabwysiadu safbwynt o fonitro’r sefyllfa o fis i fis. Gydag ansefydlogrwydd parhaus y farchnad, y dull fu prynu am y prisiau uchel hyn am y mis i ddod, pan nad oes fawr ddim dewis i osgoi’r gost i GIG Cymru.

 

Ar gyfer 2022-23, prynwyd trydan ymlaen llaw pan oedd prisiau ar lefel is, a bydd hynny’n parhau i ddiogelu GIG Cymru hyd at fis Medi 2022. Ar ôl hynny, bydd yn rhaid sefydlu contract newydd neu estyniad. Os bydd lefelau prisiau’r farchnad yn parhau ar lefel uchel, yna gallai hynny roi pwysau ar gyllidebau’r GIG yn ddiweddarach yn 2022-23.

 

Ar gyfer nwy, sefydlwyd contract newydd ar gyfer Ebrill 2022 ymlaen, ac nid oedd unrhyw bryniannau wedi’u gwneud o dan y contract newydd hwn ers i brisiau’r farchnad ddechrau cynyddu pan oedd modd ystyried pryniannau. Y dull a ystyriwyd mewn cyfarfodydd diweddar yw parhau â’r cyfarfodydd EPRMG misol a dal ati i ystyried y pryniannau ar sail o fis i fis yn bennaf.

 

Nid oes cyngor dibynadwy ynghylch a fydd amodau a lefelau prisiau presennol y farchnad yn parhau fel y maent am gyfran sylweddol o’r flwyddyn i ddod. Cynhyrchwyd rhagolygon cost i lywio’r broses o bennu cyllideb 2022-23, yn seiliedig ar brisiau cyfredol y farchnad. Mae’r prisiau presennol tua phedair gwaith y lefelau arferol, ac felly gallai hyn beri risg ariannol ychwanegol i GIG Cymru os bydd prisiau’n parhau ar y lefelau hyn yn ystod 2022-23. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro effaith y risg hon ar gyllid y GIG yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

 

O ran monitro defnydd ynni GIG Cymru, cesglir data’n flynyddol gan Wasanaethau Ystadau Arbenigol Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG (NWSSP-SES) o bob bwrdd iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fel rhan o System Rheoli Perfformiad Ystadau a Chyfleusterau. Mae’r data’n ymwneud â’r flwyddyn flaenorol. Cynhyrchir adroddiad dangosfwrdd, a chaiff y data atodol ar gyfer pob sefydliad ei rannu at ddibenion meincnodi.

 

Prin yw’r newidiadau o flwyddyn i flwyddyn oni bai bod gwahanol atebion ynni’n cael eu cyflwyno, gan gydnabod bod costau ynni’n codi’n sylweddol ar hyn o bryd.

 

Lansiwyd Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru ym mis Mawrth 2021. Mae’r Cynllun Cyflenwi Strategol yn cynnwys 46 o fentrau a fydd yn helpu GIG Cymru i ddatgarboneiddio a chyfrannu at yr uchelgais i’r sector cyhoeddus fod yn sero net erbyn 2030. Mae’r Cynllun yn cynnwys targedau ar gyfer adeiladau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes.

 

Mae’r mentrau yn y cynllun yn cynnwys gwresogi carbon isel, systemau rheoli adeiladu a chynyddu’r defnydd o ynni adnewyddadwy. Enghraifft o ynni adnewyddadwy yw Fferm Solar Bae Abertawe sydd wedi’i rhannu gan NWSSP-SES gyda phob sefydliad, fel enghraifft o’r hyn y gellid ei gyflawni.

 

Sicrhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe dir ar ffurf cytundeb prydles 26 mlynedd i ddatblygu fferm solar 4 megawat ar Fferm Brynwhilach, ger Llangyfelach yn Abertawe. Mae’r fferm solar yn cynnwys 10,000 o baneli ar 14 hectar o dir a fydd yn darparu pŵer i Ysbyty Treforys drwy gysylltiad gwifren breifat 3 cilometr, sy’n golygu mai Ysbyty Treforys fydd yr ysbyty cyntaf yng Nghymru, ac yn y DU yn ôl pob tebyg, i ddatblygu ei fferm solar ei hun ar raddfa lawn. Bydd y fferm solar yn cyflenwi bron i chwarter pŵer Ysbyty Treforys, gan ostwng y bil trydan ryw £500,000 y flwyddyn a lleihau allyriadau carbon yn sylweddol. Ar adegau cynhyrchu brig, gallai fodloni galw’r ysbyty cyfan am drydan.

 

Argymhelliad 23. Dylai Llywodraeth Cymru esbonio sut yr ystyriwyd effaith costau ynni cynyddol a’r cynnydd yn y galw am wresogi ac oeri wrth bennu dyraniadau iechyd a gofal cymdeithasol yng nghyllideb ddrafft 2022-23 (a’r dyraniadau dangosol ar gyfer 2023-24 a 2024-25).

 

 

Ymateb: Derbyn

Roedd y gyllideb ddrafft yn cynnwys cynnydd refeniw o £824 miliwn yn 2022-23 i’r GIG, gan godi i £1.3 biliwn erbyn 2024-25. Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad rheolaidd sylweddol yn y GIG. Rydym eisoes wedi dyrannu £180 miliwn ychwanegol i sefydliadau’r GIG ar gyfer 2022-23, cynnydd o 2.8% ar gyllidebau craidd ysbytai a chymunedau, i’w helpu i reoli’r rhain a phwysau eraill o ran galw a chostau. Disgwylir i sefydliadau’r GIG gyflwyno eu cynlluniau tymor canolig integredig ar gyfer 2022-23 i 2024-25 erbyn diwedd mis Mawrth, a byddwn yn defnyddio’r cynlluniau hyn i asesu unrhyw risg i reoli ynni a mathau eraill o bwysau o ran y cyllid rydym wedi’i ddarparu.